Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Mercher, 23 Tachwedd
2022
Amser:
09.15 -
11.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13024
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Sinead Gallagher, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rosemary Hill (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
1.3 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei
gŵr yn cael
ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.
2 Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 9
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
2.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddarparu data ar gyfer Cymru gyfan ar gyffredinrwydd datgelu cyflyrau iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr.
2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ddarparu gwerthusiad [pan fydd ar gael] o strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
6
Y Bil Diogelwch
Ar-lein - sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth y DU (WEDI'I
OHIRIO)
7 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion – trafod yr adroddiad drafft
7.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
8 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod gohebiaeth gan undebau athrawon
8.1 Trafododd y Pwyllgor ymatebion yr undebau athrawon. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru